P-05-1017 Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle’r ysgol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Zhao, ar ôl casglu cyfanswm o 97 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rwy’n dechrau’r ddeiseb hon i alw ar y Senedd i wneud i ysgolion adael i ddisgyblion wisgo mygydau wyneb ar bob adeg (hyd yn oed yn yr ystafell ddosbarth). Gall mygydau/gorchuddion wyneb leihau’n sylweddol y gyfradd trosglwyddiadau fel y dangoswyd mewn gwledydd eraill ledled y byd. Os yw gwisgo mwgwd wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr, pam na ddylai disgyblion wisgo mygydau mewn amgylchedd caeëdig fel ystafell ddosbarth lle y mae mwy o bobl sy’n treulio amser hir yno??
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Ysgol Friars wedi gwahardd defnyddio mygydau a gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Arfon
· Gogledd Cymru